Planet - the welsh internationalist
 

Fersiwn Saesneg o'n safle

 some recent covers of Planet magazineY cylchgrawn Cymreig â'r golwg ryngwladol

Mae Planet yn gylchgrawn deufisol sy'n rhoi sylw i'r celfyddydau, diwylliant a gwleidyddiaeth yng Nghymru a ledled y byd. Yn ogystal â nodweddion ar artistiaid ac awduron cyfoes o Gymru a chyfweliadau gyda nhw, mae'n cynnwys dadansoddiad gwleidyddol, o faterion Cymreig a rhai rhyngwladol fel ei gilydd. Cyhoeddir sawl cerdd ac un stori fer ym mhob rhifyn.

O Les Murray i Guy Vanderhaeghe, o Gwyneth Lewis i Catherine Merriman, caiff darllenwyr amrywiad cyffrous o awduron o Gymru ac o bedwar ban byd.

Mae'r adran Scene yn rhoi sylw bywiog i theatr, chwaraeon, ffilm, y cyfryngau a'r amgylchfyd. Mae'r cylchgrawn hefyd yn cynnwys adran adolygiadau sylweddol, sy'n arolygu cynnyrch y gweisg Cymreig (mae'r rhan fwyaf o'r llyfrau a adolygir yn Saesneg, er ein bod yn adolygu cyhoeddiadau dethol yn Gymraeg).

rhagor

Sut i gysylltu â Planet

Planet
Blwch Post 44
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3ZZ

Ffôn: 01970-611255
Ffacs: 01970-611197

E-bost: planet.enquiries at planetmagazine.org.uk


cyflwyniad | cyfredol | tanysgrifio | staff | cyfrannu