Planet - the welsh internationalist
 

Fersiwn Saesneg o'n safle

Sut i gyfrannu

Sut i gynnig eich deunydd i gylchgrawn Planet

Mae'r rhan fwyaf o'r erthyglau, nodweddion ac adolygiadau yn Planet yn rhai wedi'u comisiynu. Os oes gennych syniad am erthygl yr ydych yn meddwl y byddai'n berthnasol i'r cylchgrawn, anfonwch lythyr ymholi gyda chrynodeb byr.

Mae Planet yn cyhoeddi 1 stori ac 8-10 cerdd ymhob rhifyn. Dylid teipio deunydd a gynigir mewn gofod dwbl. Ni chaiff deunydd ei ystyried os na ddaw ynghyd ag amlen wedi'i chyfeirio a'i stampio neu gwponau ateb rhyngwladol. Dylai cyfranwyr tramor nodi bod 1 cwpon yn ddigon ar gyfer ateb yn unig ac na fydd yn cwrdd â chost dychwelyd teipysgrif.

Mae Planet yn cyhoeddi ffuglen a barddoniaeth mewn rhychwant eang o arddulliau ac ar amrywiaeth o themâu. Hyd i ffuglen: o dan 4000 o eiriau.

Taliadau: £50.00 am bob mil o eiriau am ryddiaith; lleiafswm o £30.00 am bob cerdd. Telir ar ôl cyhoeddi.

Ar ôl ei dderbyn gan y golygyddion, gall deunydd gael ei anfon ar ddisg (Word neu Rich Text) neu fel atodiad e-bost neu hyd yn oed fel teipysgrif i'r cyfeiriad hwn:

Helle Michelsen
Golygydd,
Planet
Blwch Post 44
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3ZZ
Ffôn: 01970-611255 Ffacs: 01970-611197
E-bost: planet.enquiries at planetmagazine.org.uk


cyflwyniad | cyfredol | tanysgrifio | staff | cyfrannu