|
Fersiwn Saesneg
o'n safle
|
|
Mae Helle Michelsen ar staff Planet
ers 1991. Ar ôl graddio o Brifysgol
Copenhagen, bu'n gweithio fel cyfieithydd
a golygydd llaw rydd cyn symud i Gymru ym
1982. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn
llenyddiaeth gyfoes o Lychlyn, ac mae hi
wedi cyhoeddi erthyglau, cyfieithiadau ac
adolygiadau yn Planet, Poetry
Wales, The Western Mail a'r papur
dyddiol Politiken yn Nenmarc.
helle.michelsen
at planetmagazine.org.uk.
|
 |
|
| 
|
Fe
ddechreuodd Dafydd Prys efo
Planet yn haf 2003. Magwyd yn Aberystwyth
gan dderbyn ei addysg llawn ac addysg uwch
yno gan raddio ym maes y theatr ym Mhrifysgol
Cymru. Ei gariad cyntaf yw pel-droed ac
mae'n medru gwastraffu sawl awr yn pendroni
tactegau tim genedlaethol Cymru. Mae'n ymddiddori
mewn ffilm yn fawr iawn hefyd gan sgwennu
a ffilmio ffimliau bychain a trin a thrafod
strwythur a thechneg gan amlaf ffilmiau
an-adnabyddus o Asia ac Ewrop. Ond, an anffodus,
aros mae am rhywun i sylweddoli ei dalent.
Mae hefyd yn mwynhau chwarae, neu creu swn
o leiaf ar ei gitar, tra bod ei diddordebau
llenyddol yn gorwedd yn y clasuron, yn y
rhai Saesneg a Rwseg yn sbesiffig. Y mae'n
sgwennu yn awr ac yn y man hefyd i wahanol
gylchgronnau bychain eraill.
dafydd.prys
at planetmagazine.org.uk |
|
|
|
|