Celebrating Wales’ refugee artists

Mae’n bleser mawr gan Planet gyflwyno ein digwyddiad ar gyfer yr Eisteddfod 2019. ‘Beth yw ystyr “rhyng-genedlaetholdeb Cymreig” yn 2019?’ oedd teitl y digwyddiad.

Siaradwyr: Mererid Hopwood & Elin Royles
Cadeirydd: Paul O’Leary

Mae’r siaradwyr yn codi llawer o syniadau newydd ynglŷn â pholisi, moeseg ac addysg ̶ sy’n bwysig iawn mewn cyfnod Brecsit, cydraddoldeb a newid hinsawdd... Roedd hi’n bwrw glaw yn drwm ar ddiwedd y digwyddiad, felly rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw drafferth gyda’r sŵn yn ystod cyflwyniad Elin Royles.

Bardd, Athro ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chadeirydd Cymdeithas y Cymod yw Mererid Hopwood. Hi oedd y fenyw gyntaf erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, yn 2001.

Uwch-Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Elin Royles. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwleidyddiaeth wedi datganoli yn y DU, diplomyddiaeth is-wladwriaethol a chodi cenedl, a pholisi a chynllunio iaith.

Athro Syr John Williams mewn Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Paul O'Leary. Mae'n arbenigo yn hanes Cymru yn y 19eg ganrif, ac yn neilltuol ar fudo'r Gwyddelod, hanes trefol, y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon ac hefyd rhwng Cymru a Ffrainc.

Digwyddiad Planet ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol 2019

If you appreciated this feature, you can enjoy in-depth material on a wide range of topics in Planet magazine, and you can buy Planet here.

To help Planet in an era of austerity, take a look at our new, enhanced Supporter Subscription packages!